Bydd angen cyfeiriad e-bost ar ymgeiswyr er mwyn cofrestru. Unwaith y bydd eich ffurflen gais wedi'i chyflwyno, bydd pob gohebiaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost a nodir ar eich ffurflen gais ar y we. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad yn cael manylion y cyfweliad trwy e-bost. Felly, sicrhewch eich bod yn gwirio'ch eich negeseuon e-bost (gan gynnwys sbam) yn rheolaidd drwy gydol y broses ymgeisio a dethol. Os oes gennych anabledd a fyddai'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, cysylltwch a hrdirect@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch yr adran Adnoddau Dynol ar 01824 706200 i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu gofynnwch am addasiad rhesymol sy'n gysylltiedig ag anabledd er mwyn cyflwyno eich cais. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i gael cynnig y swydd ar ol y cyfnod cyfweld yn cael eu hysbysu dros y ffon yn y lle cyntaf gan y Rheolwr Recriwtio a bydd unrhyw gyfathrebu pellach, gan gynnwys y Contract Cyflogaeth (Telerau ac Amodau) a ffurflenni cysylltiedig, yn cael eu hanfon drwy e-bost.
Rhowch eich meini prawf chwilio isod, a dewisiwch Chwilio. Os hoffech chwilio am fwy nag un eitem mewn rhestr, dewiswch y meini prawf lluosog sy'n ofynnol gan ddefnyddio 'Ctrl' neu 'Shifft' ar y bysellfwrdd. I chwilio'r holl swyddi gwag, cliciwch y botwm Chwilio.
I ddarganfod fwy am fanteision o weithio i Gyngor Sir Ddinbych gwelwch y tudalennau gwe canlynol Gweithio gyda ni a Yr hyn rydym ni'n ei gynnig.